1.   Gwella cynllunio’r gweithlu a chymorth i ymarferwyr ar gyfer pob cyfnod addysg

2.   Sicrhau gweithlu effeithlon ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ac addysgu Cymraeg fel pwnc

Mae Estyn yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Mae Estyn yn cytuno ag amcan Llywodraeth Cymru hefyd i greu gweithlu â’r medrau priodol i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.  Er mwyn cyflawni hyn, bydd rhaid i Lywodraeth Cymru ‘gynyddu’n sylweddol nifer yr athrawon ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn addysgu mwy o blant a phobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg (Ymgynghoriad ar strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru: miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050).  Fel rhan o’r cynllunio strategol a fynnir i gyflawni hyn, byddai’n angenrheidiol creu targedau interim er mwyn olrhain cynnydd tuag at y nod rhwng nawr a 2050.

Ym Medi 2016, cyhoeddodd Estyn adroddiad ar Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg awdurdodau lleol  Mae’r adroddiad hwn yn ystyried effaith Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ar wella’r cynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg. 

-        Mae Deilliant 7 y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCAau) yn amlinellu sut y disgwylir i awdurdodau lleol wella cynllunio’r gweithlu a datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).  Un o brif ganfyddiadau’r adroddiad hwn yw bod ‘tua thraean o athrawon cofrestredig yng Nghymru yn siarad Cymraeg, ac mae ychydig yn llai o athrawon yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae cyfran yr athrawon sy’n ymuno â’r proffesiwn fel athrawon newydd gymhwyso (ANGau) sy’n siarad Cymraeg ychydig bach yn uwch na’r gyfran hon, yn yr un modd ag y mae cyfran yr athrawon newydd gymhwyso sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg (Cyngor y Gweithlu Addysg, 2015).’

-        Mae’r adroddiad yn gwneud y pwyntiau canlynol hefyd, gan gyfeirio’n benodol at gynllunio’r gweithlu a datblygiad proffesiynol parhaus:

-        ‘Roedd pob un o’r awdurdodau lleol [a gafodd eu cyfweld yn ystod cyfnod ysgrifennu’r adroddiad] wedi cynnal archwiliad medrau ieithyddol o’u gweithlu addysgu. Yn y rhan fwyaf o achosion, defnyddir y wybodaeth hon i lywio rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus a hyfforddiant priodol sydd wedi’u teilwra’n dda i wella medrau addysgu cyfrwng Cymraeg ymarferwyr.  Fodd bynnag, nid yw awdurdodau lleol a chonsortia yn arfarnu effeithiolrwydd y rhaglenni hyn yn ddigon da, yn enwedig o ran eu heffaith ar safonau.’

-        ‘Rhai awdurdodau lleol yn unig sy’n defnyddio’r dystiolaeth o’r archwiliad medrau ieithyddol, wrth ystyried eu prosiectau trefniadaeth ysgolion a chynllunio ar gyfer darpariaeth dros y tymor hwy.’

-        ‘Mae gan lawer o awdurdodau lleol heriau o ran recriwtio a chadw staff sy’n siarad Cymraeg, gan gynnwys athrawon, arweinwyr ysgol, staff cymorth addysgu a staff cynorthwyol.  Maent yn wynebu heriau penodol wrth recriwtio athrawon sy’n siarad Cymraeg mewn pynciau penodol, fel y gwyddorau. Mewn ychydig iawn o achosion, mae ysgolion wedi defnyddio athrawon sy’n siarad Cymraeg nad ydynt yn arbenigwyr, yn hytrach nag athrawon Cymraeg arbenigol sy’n meddu ar gymwysterau addas, i addysgu Cymraeg fel ail iaith.’

-        ‘Mae cyrsiau Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at wella ansawdd a chapasiti eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.’

-        Mae Deilliant 5 yn canolbwyntio ar berfformiad mewn Cymraeg fel mamiaith a Chymraeg fel ail iaith ar draws y cyfnodau allweddol.  Gyda’r bwriad y bydd y dysgwyr hyn yn gronfa bosibl o athrawon cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol, mae’r adroddiad yn darparu’r wybodaeth ganlynol o ran addysgu Cymraeg fel pwnc:

-        ‘Mae cyfran y dysgwyr sy’n astudio Cymraeg mamiaith mewn Safon Uwch a Chymraeg ail iaith mewn Safon Uwch, o gymharu â’r nifer sy’n astudio eu pynciau TGAU unigol, wedi gostwng er 2011.  Ni fodlonwyd targedau Llywodraeth Cymru yn 2015 ar gyfer y ddau gymhwyster Safon Uwch. Mae nifer yr ymgeisiadau ar gyfer Cymraeg mamiaith mewn Safon Uwch wedi amrywio rhwng tua 250 a 300 er 2011.  Mae nifer yr ymgeisiadau ar gyfer Cymraeg ail iaith mewn Safon Uwch wedi gostwng yn sylweddol dros yr un cyfnod.’

-        Yn yr adroddiad hwn mae Estyn yn dyfynnu o adroddiad cynharach ar Dilyniant ieithyddol a safonau’r Gymraeg mewn deg ysgol ddwyieithog (Tachwedd 2014) gan nodi:

-        ‘Er mwyn cynnig arlwy gyfoethog o gyrsiau a darpariaeth yn y Gymraeg, mae angen digon o staff addysgu a staff cymorth sydd yn hyfedr a hyderus wrth addysgu a chefnogi drwy’r Gymraeg.  Mae anawsterau recriwtio yn rhwystr rhag ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg mewn sawl ysgol ac awdurdod.  Yn 2012, dim ond 13% o’r hyfforddeion a enillodd dystysgrif addysg i raddedigion oedd yn gymwys i addysgu drwy’r Gymraeg. Mewn rhai meysydd, mae’r sefyllfa’n fwy difrifol.  Er enghraifft, yn 2012, dim ond 4% o athrawon dan hyfforddiant mewn bioleg a 2% o athrawon dan hyfforddiant mewn ieithoedd tramor modern oedd yn medru’r Gymraeg.

-        Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth fuddiol i athrawon a chynorthwywyr er mwyn datblygu eu medrau Cymraeg.  Yn yr ysgolion hyn, mae adran y Gymraeg yn rhoi cynhaliaeth werthfawr i aelodau o staff mewn sesiynau ffurfiol, ac yn anffurfiol.  Mewn lleiafrif o ysgolion, mae’r awdurdod lleol hefyd yn cynnig hyfforddiant i staff er mwyn datblygu eu hyfedredd a’u hyder yn y Gymraeg.

-        Mae’r mwyafrif o ysgolion yn rhoi’r cyfle i athrawon ddatblygu eu medrau iaith ar gyrsiau sabothol, mewn partneriaeth â chanolfannau rhanbarthol.’

Mewn adroddiad thematig sydd ar fin ei gyhoeddi, mae Estyn yn arfarnu effaith arweiniad Llywodraeth Cymru ‘Rheoli presenoldeb gweithlu ysgolion yn effeithiol’ mewn ysgolion cynradd ac yn ystyried pa mor dda y mae ysgolion cynradd, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol wedi gweithredu’r arweiniad a’r effaith y mae wedi’i chael ar reoli absenoldeb athrawon a phenaethiaid.

-        Mae’r adroddiad yn canfod fod ‘bron pob ysgol wedi cael anhawster o ran gwneud trefniant cyflenwi addas ar gyfer athrawon dosbarth sy’n absennol.  Mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, mae ysgolion yn aml yn cael eu cyfyngu o ran dewis ac ansawdd athrawon cyflenwi sydd ar gael.  Prinder yn nifer yr athrawon cyflenwi sy’n siarad Cymraeg sydd i gyfrif am hyn.

-        Mae hyn yn golygu bod yr ysgolion hyn ar brydiau yn cyfaddawdu o ran ansawdd er mwyn defnyddio staff â medrau Cymraeg.  Yn achlysurol iawn, nid yw medrau Cymraeg staff cyflenwi a ddefnyddir o safon ddigon uchel i weithio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.’

-        Mae hyn yn ailadrodd canfyddiadau adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn ar Effaith absenoldeb athrawon (Estyn, 2013).  Daeth yr adroddiad i’r casgliad fod ‘ychydig o ysgolion, yn enwedig ysgolion Cymraeg a’r ysgolion hynny sydd mewn ardaloedd gwledig neu ardaloedd dan anfantais economaidd, yn cael anhawster dod o hyd i athrawon cyflenwi addas’.


Atodiad: Parhad a dilyniant

-        Mae sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar yn hanfodol bwysig yn y cyd-destun hwn.  Derbynnir po gynharaf y daw plentyn i gyswllt â’r iaith, y mwyaf tebygol ydyw o ddod yn rhugl.  Mae cynnal parhad a dilyniant yn hollbwysig hefyd, a dylai unrhyw gynllunio strategol geisio lleihau nifer y plant nad ydynt yn parhau i ddatblygu eu medrau Cymraeg hyd orau eu gallu pan fyddant yn trosglwyddo ar draws y cyfnodau addysg allweddol.

-        Mae adroddiad Estyn ar CSCAau yn cynnwys y wybodaeth ganlynol am y diffyg dilyniant i ddysgwyr, yn gyffredinol, wrth ddatblygu eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg (Deilliannau 1-4):

-        Mae cyfran y dysgwyr Blwyddyn 2 sy’n cael eu hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg wedi aros ar ryw 22% dros y pum mlynedd diwethaf.  Ni fodlonwyd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015, sef 25%.  Er 2011, mae cyfran y dysgwyr Blwyddyn 9 sy’n cael eu hasesu yn Gymraeg wedi cynyddu’n araf i ryw 18% yn 2015.  Nid yw targed Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015, sef 19%, wedi’i fodloni.  Ledled Cymru, nid yw tua 13% o ddysgwyr sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg ym Mlwyddyn 6 yn parhau mewn addysg cyfrwng Cymraeg ym Mlwyddyn 9.

-       Rhwng 2011 a 2015, bu gostyngiad cyffredinol yng nghyfran y dysgwyr sy’n dilyn dau neu bump o bynciau TGAU lefel 1 neu lefel 2 trwy gyfrwng y Gymraeg (yn ogystal â Chymraeg mamiaith TGAU). Y gostyngiad hwn yw’r mwyaf i ddysgwyr sy’n dilyn pum pwnc ychwanegol. Ni fodlonwyd targedau Llywodraeth Cymru yn 2015 ar gyfer y ddau ddangosydd hyn.

-        Er 2011, mae cyfran y gweithgareddau dysgu y mae dysgwyr 16-19 oed yn ymgymryd â nhw trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog wedi aros yn sefydlog ar y cyfan mewn ysgolion, sef tua 21%. Darlun sefydlog yn bennaf a geir mewn dysgu yn y gwaith hefyd, gyda’r gyfran yn parhau rhwng 3 a 4%.  Mewn sefydliadau addysg bellach, mae cyfran y dysgwyr sy’n astudio yn Gymraeg neu’n ddwyieithog wedi cynyddu tua thri phwynt canran i 8.5% yn 2014.  Mae’r targedau hyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2015 wedi cael eu bodloni gan ysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr dysgu yn y gwaith.

-        Er mwyn hwyluso gwelliant yn y cyfraddau dilyniant uchod ar gyfer dysgwyr sy’n parhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, mae adroddiad Estyn yn argymell y dylai awdurdodau sicrhau bod y CSCAau yn flaenoriaeth strategol. Dylent hefyd weithio gydag ysgolion i esbonio’r manteision i ddisgyblion a rhieni o gael addysg cyfrwng Cymraeg, a dilyn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae’r adroddiad yn argymell hefyd y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y targedau y cytunwyd arnynt yn y CSCAau yn adlewyrchu’r dyheadau yn eu strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg.  Dylent sicrhau hefyd fod yr holl awdurdodau lleol yn rhoi digon o bwysigrwydd strategol i gyflawni’r targedau yn y CSCAau.